Hanes

Cefndir

Mae’r gymuned Tsieineaidd yng Nghymru yn cynnwys pobl o nifer o gefndiroedd, sydd â safonau addysg gwahanol i’w gilydd. Credwn fod gan y mudo Tsieineaidd i Gymru hanes o 100 mlynedd o leiaf.

Cefndir

Yn y gymdeithas brif ffrwd, y farn sydd gan bobl yn gyffredinol yw bod y gymuned Tsieineaidd yn un gymdeithas homogenaidd – grŵp o ymfudwyr o Tsieina. Ond mae’r boblogaeth Tsieineaidd wedi dod ag amrywiaeth De- ddwyrain Asia gyda hi. Y dyddiau hyn, mae’r gymuned Tsieineaidd yng Nghymru’n cynnwys amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a phobl sydd â gwahanol safonau addysgol. Cafodd llawer o’r bobl Tsieineaidd hefyd eu geni ym Mhrydain ac yng Nghymru.

Er nad oes llawer o dystiolaeth i ddangos pwy oedd y mudwr Tsieineaidd cyntaf i ymgartrefu yng Nghymru a phryd y digwyddodd hynny, credwn fod gan y mudo Tsieineaidd i Gymru hanes o 100 mlynedd o leiaf. Daeth y mewnlifiadau mwyaf rhwng yr 1940au a’r 1970au, yn bennaf o Hong Kong a thalaith Guangdong. Mae cyfran fawr o Brydeinwyr Tsieineaidd heddiw yn ail neu’n drydedd genhedlaeth o’r mewnfudwyr hyn. Yn ogystal, mae un o’r ffrydiau eraill o fewnfudwyr Tsieineaidd yn geiswyr lloches a mudwyr anghyfreithlon. Ers 2000, oherwydd datblygiad economaidd syfrdanol Tsieina, mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n dod o dir mawr Tsieina i astudio mewn prifysgolion yn cynyddu’n enfawr. Yn y cyfamser, mae nifer gynyddol o bobl Tsieineaidd gydag addysg dda a sgiliau lefel uchel o dir mawr Tsieina yn ymgartrefu yng Nghymru. Heddiw mae Mandarin wedi disodli Cantoneg fel yr iaith amlycaf a ddefnyddir yn y gymuned Tsieineaidd.

Y Presennol

Mae’r mewnfudwyr cynnar yn heneiddio ac mae’r mewnfudwyr newydd yn ymgartrefu ac yn tyfu. Mae anghenion y gymuned amrywiol hon yn gymhleth oherwydd y trawsnewid demograffig. Fel elusen llawr gwlad, mae CIWA yn rhoi cymorth i drigolion Tsieineaidd ethnig, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed, trwy dorri drwy rwystrau iaith a gwahaniaethau
diwylliannol waeth beth fo’u hoed, eu crefydd a’u cefndir. Rydym yn hybu cydlyniant cymunedol o fewn y gymuned Tsieineaidd ac yn dod â’r bobl Tsieineaidd ethnig o gefndiroedd gwahanol at ei gilydd. Rydym yn darparu gwasanaethau i’w galluogi i integreiddio i’r gymdeithas brif ffrwd.

Y Presennol

Cefndir

Ar hyn o bryd, Wrth i fewnfudwyr newydd ymgartrefu, mae CIWA yn rhoi help i drigolion Tsieineaidd ethnig. Mae’n cymryd gofal arbennig o’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Rydym yn eu helpu i integreiddio i’r gymdeithas brif ffrwd.

Ystadegau

  • Yng Nghyfrifiad 2011, mae’r data yn dangos bod 13,638 o bobl o dras Tsieineaidd yng Nghymru. Mae bron i hanner y rhain yn Abertawe (2,052) a Chaerdydd (4,168). Nhw yw’r trydydd mwyaf o’r grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
  • Mae data Cyfrifiad 2011 yn awgrymu mai’r grŵp ethnig heb fod yn wyn mwyaf yn Abertawe yw’r grŵp Tsieineaidd ethnig (0.9% o boblogaeth Abertawe)
  • Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu data am brif iaith pobl yn ôl eu hyfedredd yn y Saesneg. Mae’n dangos nad oes gan 39% o siaradwyr Mandarin, 40% o siaradwyr Cantoneg a 30% o’r holl siaradwyr Tsieinëeg eraill fawr ddim sgiliau siarad Saesneg neu ddim Saesneg o gwbl.
  • Yn seiliedig ar y data mwyaf sydd ar gael, yn ail chwarter 2016, y grwpiau mwyaf o geiswyr lloches a oedd yn derbyn cymorth o dan adran 95 yng Nghymru oedd gwladolion Tsieineaidd (364 o bobl). Mae’r rhain yn byw yn bennaf yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.

Data Newydd o’r Cyfrifiad

2021/03/01 12:00:00