Mae’r Cymdeithas Tsieiniaidd Yng Nghymru (Chinese in Wales Association, CIWA) yn sefydliad elusennol sydd â’r nod o ddarparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieineaidd ethnig yng Nghymru.
Sefydlwyd CIWA i ddiwallu anghenion demograffig cyfnewidiol y gymuned Tsieineaidd yng Nghymru. Mae pencadlys CIWA yn Abertawe. Mae’r ganolfan yn darparu gwasanaethau craidd megis gwasanaethau ieithyddol mewn Mandarin, Cantoneg, tafodiaith Fujiaidd a Saesneg, ynghyd â gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth ac atgyfeirio achosion.
Rydym yn darparu cyngor ar les lleol, tai, gofal iechyd, addysg a chyflogaeth hyd eithaf ein gwybodaeth. Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol, yn ogystal â hyrwyddo cymdeithas amrywiol ac amlddiwylliannol.