Dw wedi bod yn byw yn Abertawe ers 6-7 mlynedd, mae ‘na bump ohonon ni yn ein teulu.
Cawsom lythyr ar Ragfyr 8fed yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni symud allan o’r llety a osodwyd cyn ein statws cyfreithiol erbyn 14 Rhagfyr.
Roedd mor frysiog, heb gynnwys y penwythnos, dim ond pedwar diwrnod oedd gennym i wneud hynny. Ni ddywedwyd wrthym i ble i symud a doedd dim unrhyw syniad gyda ni ynglŷn â phwy i ofyn am gyngor a chymorth.
Ers i mi ddod i CIWA a’ch bod wedi fy rhoi mewn cysylltiad ag Opsiynau Tai ar gyfer fy mhroblem dadfeddiant, a chan wybod bod gennyf yr hawl i 28 diwrnod o rybudd, gwnaeth i mi deimlo’n well a rhywfaint yn dawelwch fy meddwl.
Trwoch chi rydw i’n gallu deall beth sy’n digwydd a beth rydw i’n gallu ei wneud. Fe wnaethoch chi helpu trwy gysylltu â phobl ar ein rhan ac esbonio i mi beth sy’n digwydd a beth i’w ddisgwyl.
Gwnaethoch chi gadw mewn cysylltiad gyda fi yn ystod yr amser pan oeddech yn gofyn ar ein rhan ac rwy’n amlwg yn gwybod beth sy’n digwydd ac mae hynny’n wirioneddol bwysig oherwydd rhoddodd dawelwch meddwl i mi ac roedd wedi lleihau llawer o’r straen.
Teimlais nad oeddwn yn ymladd brwydr ar fy mhen fy hun, gyda CIWA wrth fy ymyl, roeddwn yn teimlo’n gryfach ac yn gallu wynebu’r holl heriau oedd o’m blaen.