Mae fy iechyd yn wael iawn. Mae ceisio cymorth meddygol yn her gyson ac ar ben hynny mae materion ein bywyd bob dydd hefyd yn achosi llawer o broblemau i ni.

Rwy’n derbyn llawer o lythyrau oddi wrth y GIG ac adrannau’r cynghor ac ati, mae angen cymorth arnaf i gyfieithu’r llythyrau, ac i gael trefn ar yr hyn y mae’r llythyrau hyn yn gofyn i mi ei wneud.

Mae staff CIWA yn sylwgar iawn ac yn ofalgar, maen nhw bob amser yn gwneud eu gorau i helpu datrys ein problemau. Rydyn ni wir angen sefydliad fel CIWA i’n helpu ni i fwrw ymlaen â’n bywydau.

Y gefnogaeth fwyaf yw bod CIWA wedi ein helpu i oresgyn y frwydr ynom ni ein hunain, a’r diymadferthedd sydd gennym tuag at y system gofal iechyd.

Wong
80 years old
Swansea
Skip to content