Amdanom Ni

Lle rydyn ni wedi ein lleoli

"

Mae’r Cymdeithas Tsieiniaidd Yng Nghymru (Chinese in Wales Association, CIWA) yn sefydliad elusennol sydd â’r nod o ddarparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieineaidd ethnig yng Nghymru.

Sefydlwyd CIWA i ddiwallu anghenion demograffig cyfnewidiol y gymuned Tsieineaidd yng Nghymru. Rydym yn adeiladu ar y gefnogaeth a roddwyd gan y Swansea Chinese Community Co-op Centre dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr mae CIWA yn datblygu gwasanaethau gwell i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y gymuned Tsieineaidd yn Abertawe a’r cyffiniau. Ein nod yw dod â’n gwasanaethau a sgiliau adeiladu cymunedau i Gymru gyfan.

Mae pencadlys CIWA yn Abertawe. Mae gennym ganolfan galw heibio yn Theatr y Grand, Abertawe. Mae’r ganolfan yn darparu gwasanaethau craidd megis gwasanaethau ieithyddol mewn Mandarin, Cantoneg, tafodiaith Fujiaidd a Saesneg, ynghyd â gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth ac atgyfeirio achosion. Rydym yn darparu cyngor ar les lleol, tai, gofal iechyd, addysg a chyflogaeth hyd eithaf ein gwybodaeth. Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol, yn ogystal â hyrwyddo cymdeithas amrywiol ac amlddiwylliannol.

Yn darparu prosiectau ar hyn o bryd sydd wedi eu noddi gan:

Picture1
Picture3 1
NHS Charities together logo
148512696 246743410453088 2612149263275006681 n

Ein Nodau

Nod y sefydliad yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieineaidd ethnig yng Nghymru trwy:

  • Hyrwyddo cydlyniant cymunedol, o fewn y gymuned Tsieineaidd ethnig a’r gymuned ehangach.
  • Darparu ar gyfer, a chynrychioli’r gymuned Tsieineaidd gan gynnwys pobl anabl, plant, pobl ifanc yn ogystal â phobl hŷn. Gan gynnwys cynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau eu lles cyflawn.
  • Cefnogi aelodau o’r gymuned Tsieineaidd ethnig sy’n wynebu anfantais i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n eu hwynebu a’u galluogi i gymryd rhan gyflawn yn y gymdeithas.
  • Hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Tsieineaidd a Chymraeg i archwilio a hybu cyfnewid diwylliannol rhwng y ddwy gymuned.
  • Datblygu unrhyw weithgareddau eraill sy’n hyrwyddo iechyd, lles, celfyddyd a diwylliant trigolion Tsieineaidd ethnig yng Nghymru.
  • Rhoi sylw dyledus i ddarpariaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb.

Ein Gweledigaeth

Mae CIWA yn ymrwymedig i fod yn un o’r elusennau cenedlaethol mwyaf blaenllaw i ddarparu gwasanaethau cymunedol rhagorol ledled Cymru.