Yn y gymdeithas brif ffrwd, y farn sydd gan bobl yn gyffredinol yw bod y gymuned Tsieineaidd yn un gymdeithas homogenaidd – grŵp o ymfudwyr o Tsieina. Ond mae’r boblogaeth Tsieineaidd wedi dod ag amrywiaeth De- ddwyrain Asia gyda hi. Y dyddiau hyn, mae’r gymuned Tsieineaidd yng Nghymru’n cynnwys amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a phobl sydd â gwahanol safonau addysgol. Cafodd llawer o’r bobl Tsieineaidd hefyd eu geni ym Mhrydain ac yng Nghymru.
Er nad oes llawer o dystiolaeth i ddangos pwy oedd y mudwr Tsieineaidd cyntaf i ymgartrefu yng Nghymru a phryd y digwyddodd hynny, credwn fod gan y mudo Tsieineaidd i Gymru hanes o 100 mlynedd o leiaf. Daeth y mewnlifiadau mwyaf rhwng yr 1940au a’r 1970au, yn bennaf o Hong Kong a thalaith Guangdong. Mae cyfran fawr o Brydeinwyr Tsieineaidd heddiw yn ail neu’n drydedd genhedlaeth o’r mewnfudwyr hyn. Yn ogystal, mae un o’r ffrydiau eraill o fewnfudwyr Tsieineaidd yn geiswyr lloches a mudwyr anghyfreithlon. Ers 2000, oherwydd datblygiad economaidd syfrdanol Tsieina, mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n dod o dir mawr Tsieina i astudio mewn prifysgolion yn cynyddu’n enfawr. Yn y cyfamser, mae nifer gynyddol o bobl Tsieineaidd gydag addysg dda a sgiliau lefel uchel o dir mawr Tsieina yn ymgartrefu yng Nghymru. Heddiw mae Mandarin wedi disodli Cantoneg fel yr iaith amlycaf a ddefnyddir yn y gymuned Tsieineaidd.