Mae pobl Tsieineaidd hŷn yng Nghymru heddiw yn cynnwys mewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf yn bennaf a gyrhaeddodd fel plant ac oedolion ifanc i’r DU. Roedd ffyrdd o fyw’r ymfudwyr hyn yn wahanol iawn i’r gymdeithas brif ffrwd ac fe’u hanfonwyd yn syth i weithio mewn golchdai sefydledig neu fwytai Tsieineaidd. Arweiniodd hyn at ychydig iawn o gyfleoedd i gydweddu â’r gymuned brif ffrwd a dysgu Cymraeg neu Saesneg. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ei chael yn anodd cael gafael ar wasanaethau cymdeithasol a chyhoeddus oherwydd y rhwystr iaith.
Hefyd, oherwydd y ffordd yr oedd pobl Tsieina wedi ymgartrefu, roedd aelodau o’r teulu yn aml yn cael eu gwasgaru ar draws Cymru, y DU, Ewrop a/neu ledled y byd. Mae’r bobl hŷn hyn wedi cyfrannu at y gymdeithas mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, yn eu henaint, nid oes teulu ganddynt yn byw gerllaw yn aml.